Mae stori yn rhedeg heddiw ar wefan newyddion BBC Cymru am sut mae ofnau y gallai Cymru fod ar ei cholled o ran swyddi a buddsoddiad yn sgil ynni gwynt ar y môr oherwydd nad oes gan borthladdoedd ddigon o offer.

Galwodd RenewableUK Cymru ar Lywodraeth Cymru ar ddechrau ei chweched tymor y llynedd i wneud yn siŵr bod adnoddau digonol yn cael eu cyfeirio at gefnogi porthladdoedd Cymru fel y gallent wneud cais am y cyllid addasu seilwaith sydd ei angen i wneud y gwaith uwchraddio angenrheidiol. Gallwch ddarllen mwy am hynny yma.

Mae’n hanfodol bod buddsoddiad yn cael ei wneud i alluogi porthladdoedd Cymru i chwarae eu rhan yn llawn yn y daith i Gymru sero net a byddwn yn gweithio gyda’n haelodau i nodi’r cyfleoedd cadwyn gyflenwi, y rhwystrau a’r datblygiad sgiliau sydd eu hangen i wneud i hyn ddigwydd. .

Bydd y pwnc hwn yn cael ei drafod yn fanylach yn Ynni Dyfodol Cymru ar 9 – 10 Tachwedd yn ICC Cymru, Casnewydd. Tocynnau yn mynd ar werth yn fuan.