Croesewir targedau ynni adnewyddadwy newydd

24

Ionawr 2023

Mae RenewableUK Cymru wedi croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ei bod am i 100 y cant o anghenion trydan Cymru ddod o ffynonellau ynni adnewyddadwy erbyn 2035. Mae’r cyhoeddiad wedi’i gynnwys yn ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Dargedau Ynni Adnewyddadwy Cymru.

Dywedodd Jessica Hooper, Cyfarwyddwr RenewableUK Cymru:

“Mae’r cyhoeddiad hwn yn newyddion i’w groesawu i’r diwydiant a bydd yn helpu i hybu hyder buddsoddwyr. Ond er mwyn cyrraedd y targed hwn mae angen inni ddechrau adeiladu prosiectau ynni adnewyddadwy ar gyflymder a dim ond os caiff rhwystrau eu dileu y gallwn wneud hynny. Mae hyn yn cynnwys gwneud yn siŵr bod adnoddau digonol mewn adrannau megis cynllunio, a thrwyddedu, bod gennym y bobl fedrus yn eu lle i adeiladu’r prosiectau a bod buddsoddiad yn cael ei wneud yn y lleoedd cywir. Yng Nghymru, y mannau allweddol y mae angen inni eu gweld yn buddsoddi i ddatgloi potensial ynni adnewyddadwy yw’r grid a’r porthladdoedd – heb hyn ni fyddwn yn gallu adeiladu’r seilwaith sydd ei angen i gefnogi’r uchelgais hwn.

“Yn ystod y 12 mis diwethaf rydym wedi dechrau deall mwy am y potensial y mae gwynt arnofiol ar y môr yn ei gynnig i Gymru. Ond ni all diwydiant yn unig gyflawni hyn. Mae angen i Lywodraeth Cymru ac ASau Cymru roi pwysau ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod yr argymhellion yn y Mesur Ynni sy’n mynd drwy’r Senedd ar hyn o bryd yn cael eu gweithredu ar unwaith.

“Mae’n wir yn darged uchelgeisiol, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda’n haelodau a Llywodraeth Cymru i helpu i’w gyflawni cyn gynted â phosibl.”

Mae’r ddogfen ymgynghori lawn gan Lywodraeth Cymru ar gael yma.