Mae Cyngor Caerffili yn cymeradwyo cynlluniau ar gyfer MOU gyda RWE ar gyfer gwynt ar y tir
6
Mai, 2021
Mae Cyngor Caerffili wedi cytuno i gynnal Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gydag RWE i archwilio opsiynau i’r Cyngor fuddsoddi, trwy fodel cydberchnogaeth mewn datblygiad fferm wynt arfaethedig.
Bydd y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn galluogi Cyngor Caerffili ac RWE i weithio mewn partneriaeth i archwilio’r posibilrwydd o ddatblygu model perchnogaeth a rennir ar gyfer y fferm wynt ar y tir arfaethedig ar dir preifat yn Fferm Pen March ger Rhymney.
Gallai’r prosiect weld y Cyngor yn cyfrannu at gostau adeiladu’r datblygiad yn gyfnewid am rywfaint o’r refeniw a gynhyrchir yn ogystal â sicrhau’r buddion cymunedol lleol a briodolir i’r cynllun i’r eithaf.
Gallai’r cynllun arfaethedig gynnwys hyd at saith tyrbin, gyda chynhwysedd gweithredol wedi’i osod o hyd at 30MW.
Dywedodd Jenny Cowley, Datblygwr Ynni Adnewyddadwy yn RWE Renewables:
“Rydym yn falch iawn ein bod wedi llofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda Chyngor Bwrdeistref Sir Caerffili. Mae gan wynt ar y tir y potensial i chwarae rhan allweddol wrth helpu Cymru i ddod yn genedl sero net ac mae RWE mewn sefyllfa dda i ddatblygu’r prosiect hwn. Mae RWE wedi ymrwymo i ddod â buddion economaidd mawr eu hangen i’r ardal a bydd yn defnyddio cymaint o fusnesau lleol â phosibl. “
Dywedodd y Cynghorydd John Ridgewell, Aelod Cabinet Cyngor Caerffili dros yr Amgylchedd a Seilwaith:
“Mae hwn yn gyfle cyffrous sydd nid yn unig yn cwrdd â blaenoriaethau’r Cyngor i ostwng emissoins carbon, gan wneud y fwrdeistref sirol yn lle hyd yn oed yn wyrddach, ond hefyd yn cysylltu â’n hymrwymiadau i gynyddu cyfleoedd ar gyfer buddsoddiad masnachol a sicrhau buddion cymunedol ehangach. Mae’r prosiect hwn wir yn dangos ein hethos fel sefydliad sydd â meddwl masnachol a chalon gymdeithasol. “