Cwmnïau o Gymru yn teithio ‘yn llu’ i Fanceinion ar gyfer Cynhadledd Flynyddol RenewableUK eleni a gynhelir rhwng 11 a 13 Tachwedd.

Mae grŵp o tua 20 o gwmnïau yn cael eu cynrychioli o dan nawdd y brand datblygu economaidd Llywodraeth Cymru, yn weithgaredd sy’n cefnogi’r prosbectws a lansiwyd yn ddiweddar o Gymru fel lle i fuddsoddi.

Mae’r cwmnïau yn cynnwys aelodau RenewableUK, fel Dulas, Tidal Lagoon, Grŵp Llandrillo Menai, Seren Energy, Safety Technology a Tidal Energy.

“Mae Cynhadledd Flynyddol RenewableUK yn gyfle gwych i gwmnïau o Gymru i ddangos eu harbenigedd i DU a marchnad ynni adnewyddadwy fyd-eang”, meddai David Clubb, Cyfarwyddwr RenewableUK Cymru. “Mae’r cwmnïau teithio i Fanceinion yn elwa o gynnydd sylweddol yn amlygiad ar gyfer eu cynnyrch, boed hynny hyfforddiant, gwasanaethau neu gynnyrch”.

Mae rhagor o wybodaeth am y digwyddiad, gan gynnwys manylion presenoldeb neu arddangosfa, i’w gweld yma.

Cwmnïau ychwanegol o Gymru s’n teithio i Fanceinion yn cynnwys:
Lingard Styles, Santon Switchgear, Marine Energy Pembrokeshire, CMACS, ARC Woodlands, Austwell, Hornbill Engineering, Ledwood Mechanical Engineering, Pembrokeshire County Council, Pembrokeshire Port Authority, Simon Safety, Stratus Environmental a’r Porth Mostyn.