Yn ymateb i’r cyhoeddiad, dywedodd Dr David Clubb, Cyfarwyddwr RenewableUK Cymru:

“RenewableUK Cymru yn croesawu argymhellion Adroddiad y Comisiwn Silk. Mae’r diwydiant ynni adnewyddadwy yng Nghymru yn awyddus i weithio gyda trefn gydsynio a fydd yn helpu Cymru i elwa ar ei photensial ynni gwyrdd rhagorol drwy gynyddu nifer y prosiectau ynni adnewyddadwy.

“Rydym yn falch o weld y cynnig i gysylltu datblygiad sy’n gysylltiedig â chaniatâd prosiect cyffredinol, a fydd yn symleiddio’r broses a lleihau ansicrwydd i ddatblygwyr. Mae hyn yn cysylltu’n dda gyda’r sicrwydd gan y Gweinidog dros Adnoddau Naturiol a Bwyd yn gynharach eleni y byddai Llywodraeth Cymru sefydlu targedau ar gyfer y sector yn dilyn datganoli pwerau cydsynio ynni.

“Mae dyfodol adnewyddadwy yn addo gyfle gwych ar gyfer datblygu busnes, arallgyfeirio ar ffermydd a grymuso cymunedau , ac rydym yn edrych ymlaen at gefnogi sefydliadau Cymreig i greu fframwaith mwy sefydlog a chadarnhaol ar gyfer y sector ynni adnewyddadwy. “