Newyddion dda o Cynnal Cymru:

Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod y Loteri Fawr yng Nghymru wedi dyfarnu £1 miliwn i Gronfa Fancio Gymunedol Robert Owen (ROCBF) yn ddiweddar.

Nod Cronfa Datblygu Ynni Cymunedol ROCBF fydd rhyddhau cynlluniau ynni adnewyddadwy newydd ledled Cymru trwy ddarparu buddsoddiad ariannol arloesol yn ystod y camau yn eu datblygiad sydd â mwy o risg.

Bydd yr arian hwn yn ategu ffynonellau nawdd eraill i’r sector. Bydd ROCBF hefyd yn gweithio’n agos ag amrywiaeth eang o grwpiau cymunedol i helpu i adeiladu gallu ariannol a’u symud ymlaen yn gyflymach tuag at fod yn gynlluniau sy’n barod am fuddsoddiad.

Mae ROCBF yn gweithio mewn partneriaeth ag Ynni Cymunedol Cymru a gyda rhanddeiliaid blaenllaw eraill yn y sector ynni adnewyddadwy cymunedol cynyddol er mwyn rhoi’r gronfa ar waith o fis Mawrth 2014.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:
Mick Brown, Rheolwr Datblygu
Ffôn: 01686 626234 ext 3
Ebost: [email protected]

ROCB