Erebus, prosiect gwynt arnofiol arloesol Cymru yn sicrhau trwydded forol

Mae RenewableUK Cymru wedi croesawu’r newyddion bod Blue Gem Wind wedi cael trwydded forol ar gyfer ei brosiect Erebus, ychydig oddi ar arfordir Sir Benfro.

Mae Blue Gem Wind yn fenter ar y cyd rhwng TotalEnergies, un o gwmnïau ynni mwyaf y byd a Simply Blue Group. Erebus yw fferm wynt arnofiol gyntaf Cymru ac mae wedi’i lleoli tua 40km oddi ar arfordir Sir Benfro. Bydd ei dyrbinau gwynt arnofiol yn darparu digon o ynni carbon isel i bweru 93,000 o gartrefi, gan gyfrannu at dargedau sero net a diogelwch ynni.

Mae rhagor o wybodaeth am Erebus ar gael yma.