Mae dadl fywiog bob amser ynghylch cwmpas a natur cyfranogiad / perchnogaeth gymunedol mewn prosiectau ynni adnewyddadwy, ac mae gan Gymru lu o straeon llwyddiant i’w dathlu.

Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn edrych ar y dull a ffefrir ganddi o gyflenwi oddeutu 1GW o ynni adnewyddadwy mewn perchnogaeth gymunedol erbyn 2030 ac elfen o berchnogaeth gymunedol ar gyfer pob prosiect ynni adnewyddadwy erbyn 2020.

Bellach mae gennym yr ysgogiad ychwanegol o argyfwng hinsawdd a phopeth sy’n ei olygu, yn anad dim y gofyniad (yn ôl Pwyllgor Newid Hinsawdd y DU) i adeiladu cynnydd pedwarplyg mewn pŵer adnewyddadwy.

Sut mae’r amcanestyniad galw hwnnw’n berthnasol i Gymru? Beth yw’r cydbwysedd cywir rhwng cynhyrchu ar raddfa strategol sydd wedi’i gynllunio’n dda, yn ymatebol i’r gymuned, a allai helpu ‘ein cael ni yno’n gyflym’ ac ynni adnewyddadwy ar lefel leol, micro-grid lle mae cymunedau ac unigolion yn chwarae rolau uniongyrchol?

Byddwn yn pwyso a mesur y materion hyn ar Fedi 24ain yn ein cyfarfod grŵp ynni trawsbleidiol nesaf Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ar y cyd ag Arup a FreshwaterPR.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cinio, rhwydweithio a thrafodaeth fywiog, gweler hwn am fanylion: