Fe fydd RenewableUK Cymru yn cynnal sesiwn waith i drafod yr FfDC fel y mae’n ymwneud â datblygu ynni adnewyddadwy ar Hydref 18fed
Yr NDF yw cynllun 20 mlynedd Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru hyd at 2040. Ei nod yw ymdrin â’r materion mawr sy’n bwysig i lwyddiant Cymru, gan gynnwys tai, ynni, economi, trafnidiaeth a’r amgylchedd.
Meddai Rhys Jones, pennaeth RUK Cymru “Mae’r FfDC yn ddogfen allweddol o ran ei gyfraniad tuag at sicrhau dyfodol llewyrchus i ddiwydiant ynni adnewyddol Cymru. Edrychaf ymlaen at sesiwn ddefnyddiol fydd yn helpu datrys rhai o’r materion mwyaf pwysig yn ymwneud a leoliad cynlluniau ynni adnewyddol gwynt ar y tir a solar, a’u gyfraniad tuag at ymateb Cymru i’r argyfwng hinsawdd.”
Lleoliad: Ystafell ddinesig 4, Gwesty Park Plaza, Caerdydd
Amser: 09.00 ar gyfer 09.30 cychwyn – 12.00 ganol dydd
Pwrpas: Darparu gwybodaeth gefndir ychwanegol ac eglurhad i randdeiliaid mewn perthynas â pholisïau 10 – 13 yn y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol ac ymateb i gwestiynau ymgynghorwyr / rhanddeiliaid a allai gynorthwyo wrth baratoi ymatebion i ymgynghoriad yr NDF.
Cadeirydd: Rhys Wyn Jones, Pennaeth RenewableUK Cymru
Panel: John Fudge, Pennaeth Polisi Cynllunio, Llywodraeth Cymru
Jennifer Pride, Pennaeth Ynni Adnewyddadwy, Llywodraeth Cymru
Stuart Ingram, Uwch Reolwr Cynllunio, Llywodraeth Cymru
N.B. Mae argaeledd cyfyngedig yn y sesiwn hon a bydd yn cael ei danysgrifio ar sail y cyntaf i’r felin. Os hoffech chi fod yn bresennol, e-bostiwch Rhys Wyn Jones ar [email protected]