Mae’n bleser gan RenewableUK Cymru gyhoeddi y bydd innogy Cymru, buddsoddwr mwyaf Cymru i
brosiectau ynni adnewyddadwy, yn noddi’r sesiwn Marchnadoedd Ynni Lleol yn Ynni Clyfar Cymru ar 4 Gorffennaf.

Mae’n gwneud hyn trwy ddarparu cyflogaeth ar brosiectau yn ogystal â thrwy gronfeydd
buddsoddi cymunedol sy’n gysylltiedig ag ystod o brosiectau: o Fferm Wynt Alltraeth Gwynt y Môr yn y gogledd i Fferm Wynt ar y Tir Gorllewin Coedwig Brechfa yn y De.

Cadeirydd y sesiwn fydd Jeremy Smith, sydd hefyd yn aelod o’r grŵp Smart Energy Systems ac sydd â diddordeb mawr mewn materion yn ymwneud â sut mae pobl ac aelwydydd yn rhyngweithio â’r system ynni.

Wrth siarad am nawdd dafogy, dywedodd Rhys Jones, Pennaeth RenewableUK Cymru, “Mae record innogy o fuddsoddi mewn prosiectau ynni cynaliadwy yng Nghymru heb ei ail. Maent yn un o brif ddatblygwyr seilwaith carbon isel Cymru, ac rydym yn falch iawn eu bod yn cysylltu eu hunain ag Ynni Clyfar Cymru.

“Meddai Jeremy Smith o innogy,“ Mae angen brys i symud tuag at ddyfodol carbon isel. Rwy’n falch bod innogy ar flaen y gad yn y cyfnod pontio hwn, gan gynhyrchu traean o holl ynni adnewyddadwy Cymru.”

Am fwy o wwybodaeth ac er mwyn cadarnhau eich presenoldeb eleni ewch at: http://smartenergy.wales/?lang=cy