Capital Law, enillydd gwobr 2015 ar gyfer y cwmni cyfreithiol gorau yng Nghymru, wedi dod yn aelod diweddaraf o RenewableUK Cymru, y corff masnach ar gyfer isadeiledd cynaliadwy yng Nghymru.
Capital Law yn meddu ar brofiad helaeth ar draws ystod o sectorau mewn marchnadoedd domestig a rhyngwladol, ac yn ehangu eu meysydd arbenigedd i gynnwys mwy o brosiectau seilwaith cynaliadwy ag ynni.
Wrth siarad am yr aelod newydd, dywedodd David Clubb:
“Mae gan Capital Law record rhagorol ar draws ystod o sectorau, ac rydym yn hynod falch o fod yn gweithio gyda nhw i gefnogi eu gweithgareddau mewn ynni ac isadeiledd cynaliadwy.
“Mae eu hymrwymiad clir i ragoriaeth mewn ymarfer cyfreithiol yn brawf o eu ffocws ar ddenu a chadw staff brwdfrydig, a bydd eu haelodaeth yn sylweddol cryfhau llais y sector yng Nghymru”