Jeremy Smith has been appointed Chairman of RenewableUK Cymru Strategy Group

Jeremy Smith has been appointed Chairman of RenewableUK Cymru Strategy Group

Mae Jeremy Smith, Rheolwr Datblygu Cymru yn RWE Innogy UK Ltd, wedi cael ei benodi Cadeirydd newydd Grŵp Strategaeth RenewableUK Cymru. Mae’n cymryd lle Richard Evans o RES, sydd wedi cadeirio’r grŵp ers 2013.

Wrth siarad am ei benodiad dywedodd, Jeremy Smith: “Mae’n ffaith adnabyddus bod Cymru wedi’i bendithio ag adnoddau ynni adnewyddadwy gwych. Fodd bynnag, mae gennym ffordd bell iawn i fynd i ddal  fyny gyda chwaraewyr fel yr Alban sydd wedi adeiladu economi werdd ffyniannus ar gefn ynni adnewyddadwy. Fel Cadeirydd mae gen i gyfle gwych i ddylanwadu ar weithgareddau’r sector yng Nghymru, a weithio’n galed i dynnu sylw at y manteision enfawr i Gymru o ein diwydiant ynni gwyrdd sy’n tyfu.

“Hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch i Richard Evans am ei gyfraniad dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae wedi bod yn gyfnod prysur ac mae wedi helpu RenewableUK Cymru llywio ei ffordd drwy rai newidiadau mawr yn ystod y cyfnod hwn. ”

Dywedodd David Clubb, Cyfarwyddwr RenewableUK Cymru: “Mae Jeremy yn aelod gwerthfawr a phrofiadol yn y Grŵp Strategaeth RenewableUK Cymru ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gydag ef yn agosach. Bydd un o’i swyddogaethau cyntaf fydd i annerch y gynhadledd Adnewyddadwy Cymru ar 21 Mai yng Nghaerdydd, lle y bydd cannoedd o bobl yn ymgasglu i drafod y materion sy’n wynebu’r diwydiant. “