Wrth ymateb i’r newyddion bod GDF Suez wedi caffael West Coast Energy, dywedodd Llywelyn Rhys, dirprwy gyfarwyddwr RenewableUK Cymru,:

“Mae’r ffaith bod cwmni mawr fel GDF SUEZ yn buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy yng Nghymru yn newyddion da ac yn dangos potensial y diwydiant. Rydym yn edrych ymlaen at barhau i weithio gyda West Coast Energy i gryfhau ynni adnewyddadwy yng Nghymru ac yn y DU. “